Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fedi 2022
Manage episode 342369048 series 1301561
Radio’r Cymry Mae hi bron yn ganrif ers i'r geiriau Cymraeg cyntaf gael eu clywed ar y radio. Yn y gyfres newydd, Radio’r Cymry, mae Hywel Gwynfryn yn edrych ar raglenni, digwyddiadau â'r cymeriadau sydd wedi gwneud Radio Cymru yr hyn ydy o heddiw. Yn 1935 daeth Sam Jones yn Bennaeth y BBC ym Mangor ac roedd hi’n ddechrau ar gyfnod cyffrous iawn yn hanes Radio Cymraeg. Dyma ei ysgrifenyddes, Morfudd Mason Lewis, yn sôn am y dyddiau hynny..... Canrif - Century Cyfres - Series Pennaeth - Head Parchu - To respect Peirianwyr - Engineers Tyrfa - A crowd Rhaglenni byw - Live programmes Pennill - A verse A ddeuai - Fasai’n dod
Aled Hughes Aeth Aled Hughes draw i Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn i gwrdd â Reuben Hughes, sy’n bencampwr reslo braich! Mae o’n aelod o glwb reslo braich Roar yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin, ac mae o newydd ennill ei gystadleuaeth reslo braich gynta. Pencampwr - Champion Am sbort - For fun Yr amser yn brin - Time was scarce Penderfynol - Determined Diogelwch - Safety Poendod - A worry Gwarchod - To protect Rhoi'r fantais - To give an advantage Cryfder - Strength
Gwneud Bywyd yn Haws Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth, buodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Dr Elinor Young. Mae gan Elinor gi therapi o’r enw Tana sydd yn rhan o gynllun Cŵn Cymorth Cariad a dyma hi’n sôn ychydig wrth Hanna am y cynllun… Cafodd ei sefydlu- Was established Hwlffordd - Haverfordwest Disgwyliadau - Expectations Hyfforddiant - Training Cyfathrebu - To communicate Perchennog - Owner Lles - Welfare Dychryn - To frighten Llyfu - To lick
Bore Cothi Therapi sy’n cael sylw yn y clip nesa ‘ma hefyd, sef Adweitheg, neu Reflexology. Mi roedd hi’n Wythnos Adweitheg y Byd wythnos diwetha, ac mi fuodd Sioned Jones yn sgwrsio efo Shân Cothi am y therapi. Mae Sioned yn dod o Waunfawr yng Ngwynedd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae hi’n byw yng Nghaerdydd ac yn berchen ar gwmni J Reflexology yn y ddinas. Cysur - Comfort Adweitheg - Reflexology Heriau - Challenges Gradd ychwanegol - An extra degree Addas - Suitable Dan bwysau - Under pressure Egni - Energy Treulio - To digest Crediniol - Convinced Beichiogi - To become pregnant
Bore Cothi Sut mae gwybod y gwahaniaeth rhwng colomen a sguthan? Dyna oedd cwestiwn Shân Cothi i Daniel Jenkins Jones, a dyma fo’n ateb mewn ffordd ddiddorol iawn. Colomen - Pigeon (Y)sguthan - Wood Pigeon Gwahaniaethu - To differenciate Turtur Dorchog - Collared Dove Tlws - Pretty Coedwigoedd - Woodlands Yn bla - A plague Cerddorol - Musical Atgoffa - To remind Sill - Syllable
Aled Hughes Tybed ydy amser yn ymddangos i fynd yn arafach i blant nag ydy o i oedolion? Mae Dr Rhys Morris yn gweithio yn adran astroffiseg, Prifysgol Bryste, ac mae’n grediniol bod hynny’n digwydd. Dyma fo’n esbonio pam mae o’n credu hynny wrth Aled Hughes... Ymddangos - To appear Hŷn - Henach Atgofion - Memories Canran - Percentage Ymenydd - Brain Golygfeydd - Scenes Cyfnod llai - A shorter period Manylyn - A detail Gweledol - Visual
352 епізодів